English

Cymdeithas Trefnu Blodau Aberystwyth a’r Cylch

Newyddion
mwy
.

Croeso

Ni yw'r clwb trefnu blodau swyddogol yn Aberystwyth sy'n cyfarfod yn fisol gan ddarparu awyrgylch cyfeillgar a chymdeithasol gydag arddangosiadau gan arddangoswyr Lleol a Chenedlaethol NAFAS, yn ogystal ag arddangoswyr newydd gymhwyso a dan hyfforddiant cymhwyso.

Rydym hefyd yn trefnu gweithdai ar ffordd benodol o drefnu blodau, er mwyn rhoi cyfle i arbrofi a dysgu mewn grŵp anffurfiol a hamddenol i aelodau a gwesteion sydd â diddordeb.

Ar yr ochr gymdeithasol, rydym yn trefnu teithiau allan i ymweld â gerddi a digwyddiadau NAFAS arbennig megis y Sioe Genedlaethol a hyd yn oed yn ddiweddar, Sioe Flodau y Byd (WAFA) yn Nulyn.

Cyfarfodydd

Rydym yn cyfarfod ar y trydydd dydd Mawrth o bob mis am 7.30yh (ac eithrio mis Awst) yn Neuadd Llanfarian, Tŷ Llwyd, Aberystwyth, SY23 4HU, gyda digon o le i barcio ac hefyd mynediad i'r anabl.

Mae Aelodaeth ar hyn o bryd yn £25 y flwyddyn.

Mae croeso cynnes i ymwelwyr ddod i bob un o'n cyfarfodydd am gost o £4.00 y noson.

Committee members

Dyma aelodau'r pwyllgor





Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration